Comisiwn y Cynulliad
Assembly Commission

NAFWC 2011 (Papur 4 Rhan 1)
Gwasanaethau dwyieithog

 

Dyddiad:     14 Gorffennaf 2011
Amser:        12.00-14.00
Lleoliad:      Ystafell Gynadledda 4B
Enw a rhif cyswllt yr awdur: Non Gwilym, estyniad 8647

Gwasanaethau dwyieithog

1.0       Diben a chrynodeb o’r materion

1.1.     Disgrifia’r papur hwn nifer o faterion yn ymwneud â’n gwasanaethau dwyieithog, gan gynnwys cyfieithu Cofnod y Trafodion, yr ymchwiliad gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg a’r cynigion ar gyfer darpariaethau deddfwriaethol.

2.0       Argymhellion

2.1.     Gofynnir i Gomisiwn y Cynulliad roi eu sylwadau a chytuno ar:

·         y ffordd ymlaen ar gyfer Cofnod y Trafodion (paragraffau 5.1 i  5.11);

·         yr ymateb drafft i’r ymchwiliad gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg (Atodiad A);

·         Bil (Drafft) Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) (Atodiad B);

·         y Cynllun Ieithoedd Swyddogol drafft (Atodiad C); a

·         yr amserlen ar gyfer ymgynghori ar y Bil drafft a’r Cynllun drafft (Atodiad CH).


 

Cefndir

3.0       Cronoleg

3.1.     Cafodd y penderfyniad i roi’r gorau i gyfieithu Cofnod y Trafodion o’r Saesneg i’r Gymraeg ei wneud gan y Comisiwn yn ei gyfarfod ym mis Mehefin 2009. Yn ei gyfarfod ym mis Medi 2009, ar ôl cael sylwadau gan Aelodau’r Cynulliad a’r cyhoedd, cytunodd y Comisiwn i barhau i gyfieithu trafodion y Cyfarfod Llawn o’r Saesneg i’r Gymraeg o fewn 3-5 diwrnod (yn hytrach nag o fewn 24 awr fel yr arferid ei wneud), nes ei fod wedi clywed argymhellion panel annibynnol a oedd i gael ei sefydlu ar ddechrau 2010 i adolygu ein gwasanaethau dwyieithog, gan gynnwys Cofnod y Trafodion, ac wedi iddo ystyried yr argymhellion hynny.

3.2.     Trafodwyd adroddiad ac argymhellion y Panel Adolygu Annibynnol ar Wasanaethau Dwyieithog gan y Comisiwn yn ei gyfarfod ym mis Mai 2010.  Dywedai’r argymhellion y dylai’r Cynulliad gynyddu’i wasanaethau dwyieithog er mwyn gwella’i ymgysylltiad â’r cyhoedd a’i wasanaethau i Aelodau.  Yn hytrach nag adfer y broses o gyfieithu’r Cofnod yn llawn, argymhellodd y Panel ‘bod y Cofnod testun gair am air o drafodion ond yn cael ei gyhoeddi yn yr iaith/ieithoedd gwreiddiol a draddodwyd, ynghyd â chofnod o’r cyfieithiad ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg, fel y’i traddodwyd yn y Siambr ar y pryd’. Awgrymodd y Panel hefyd y dylid datblygu cyfres o ddulliau o gael mynediad at y trafodion sydd wedi’u seilio ar dechnoleg, a fyddai’n sicrhau bod trafodion y Cynulliad yn fwy hygyrch i bawb.  Yn unol ag argymhelliad y Panel, daeth yr arfer o gyfieithu cyfraniadau Saesneg i’r Gymraeg yn y Cyfarfod Llawn i ben o fis Medi 2010.

3.3.     Cynigiodd y Panel 29 o argymhellion, am bob agwedd ar weithrediadau dwyieithog y Comisiwn, a derbyniwyd pob un ohonynt gan y Comisiwn. Mae holl argymhellion y Panel naill ai wedi eu gweithredu’n gyflawn neu y mae camau sylweddol wedi’u cymryd i’w gweithredu. Mae llawer wedi’u hymgorffori yn ein Cynllun Ieithoedd Swyddogol drafft. Nodir hynt y 29 argymhelliad yn eu cyfanrwydd yn Atodiad D.

3.4.     Yn ei gyfarfod ar 30 Tachwedd 2010, cytunodd y Comisiwn ar gynigion i wneud deddfwriaeth i osod dyletswyddau’r Cynulliad a’r Comisiwn mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau dwyieithog ar sail statudol gadarn. Cytunwyd hefyd ar drefniadau i lunio Cynllun Ieithoedd Swyddogol newydd o dan y fframwaith deddfwriaethol arfaethedig.

3.5.     Cytunodd y Comisiwn i ymgynghori’n eang ar y cynigion newydd hyn, ond yn ei gyfarfod ym mis Mawrth eleni, penderfynodd y byddai’n amhriodol ymgynghori ar fater a oedd o gymaint o ddiddordeb i’r cyhoedd, yn ystod cyfnod diddymu’r Cynulliad, ac y dylid cynnal yr ymgynghoriad yn yr haf.

4.0       Ymchwiliad Bwrdd yr Iaith Gymraeg

4.1.     Ysgrifennodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg at y Prif Weithredwr ar 24 Medi 2009 yn dweud ei fod am gynnal ymchwiliad ffurfiol i benderfyniad y Comisiwn i roi’r gorau i gynnwys cyfieithiad i’r Gymraeg o gyfraniadau a wnaed yn Saesneg yn y Cyfarfod Llawn yn y Cofnod o Drafodion, ac i p’un a yw hyn yn torri amodau Cynllun Iaith Gymraeg y Cynulliad ai peidio.

4.2.     Gan fod y Panel Adolygu Annibynnol ar Wasanaethau Dwyieithog (y Panel Adolygu) wedi’i sefydlu a bod y Cofnod o Drafodion cwbl ddwyieithog wedi’i adfer hyd nes y cafwyd casgliadau’r Panel, ni fu gweithredu pellach gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar y pryd.  Ond, ar ôl gweithredu penderfyniad gwreiddiol y Comisiwn ym mis Medi 2010, edrychodd y Bwrdd ar y mater eto ac, ym mis Tachwedd 2010, lansiodd ei ymchwiliad ffurfiol.

4.3.     Dadl y Comisiwn oedd:

4.4.     Cytunodd y Comisiwn, er ei fod yn glynu at ei safiad nad oedd gan y Bwrdd bwerau statudol i ymchwilio i dorri honedig ar amodau’r Cynllun, i gydweithredu’n llwyr â’r ymchwiliad, a chyhoeddwyd canfyddiadau’r ymchwiliad ar 17 Mehefin 2011.  Canfu’r Bwrdd bod y Comisiwn wedi methu â chydymffurfio â’r Cynllun Iaith Gymraeg drwy ‘beidio darparu Cofnod cwbl ddwyieithog o drafodion Cyfarfod Llawn y Cynulliad’.  Gwnaeth y Bwrdd bum argymhelliad, sef:

4.5.     Mae’r Llywydd, Aelodau’r Cynulliad a’r Prif Weithredwr wedi cael sylwadau amrywiol gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg dros y chwe mis diwethaf yn gofyn am adfer Cofnod y Trafodion cwbl ddwyieithog cyn gynted â phosibl. Cafwyd cais o dan amodau’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i gael gweld gohebiaeth y Comisiynwyr mewn cysylltiad â’r penderfyniad i newid y trefniadau ar gyfer cyfieithu Cofnod y Trafodion, a datgelwyd yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani (yn amodol ar rai eithriadau) ym mis Mai 2011. Mae rhannau o’r wasg a’r cyfryngau Cymraeg hefyd wedi cymryd diddordeb parhaus yn y mater. Ar 10 Mehefin 2011, cyflwynwyd deiseb yn galw am adfer Cofnod cwbl ddwyieithog o drafodion y Cynulliad gan Catrin Dafydd o Gymdeithas yr Iaith, ac mae dros 1,000 o lofnodion ar y ddeiseb hyd yn hyn.

4.6.     Mae ymateb drafft i adroddiad y Bwrdd yn amgaeedig fel Atodiad A.  Mae hwn, wrth gwrs, yn ddibynnol ar ystyriaeth y Comisiwn o’r materion dan sylw a’r penderfyniadau y mae’n eu gwneud yn y cyfarfod hwn.

5.0       Cofnod y Trafodion

5.1.     Roedd adroddiad Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn argymell: ‘Yn syth ar ddechrau’r Pedwerydd Cynulliad, dylai’r Comisiwn ddarparu Cofnod trafodion y cyfarfod llawn yn gwbl ddwyieithog yn unol â’r arfer cyn Medi 2009.’

5.2.     Wrth ystyried sut y bydd yn ymateb, bydd y Comisiwn yn ystyried:

5.3.     Mae cost cyfieithu’r Cofnod yn dibynnu ar dri ffactor amrywiol, sef: nifer y geiriau a siaredir, yr amser a bennir ar gyfer gwneud y cyfieithiad, a chost cyfieithu’r geiriau hynny (ee, y gyfradd am bob 1,000 o eiriau)

5.4.     Cododd gwir gost cyfieithu’r Cofnod o’r Saesneg i’r Gymraeg, heb TAW, yn y Cynulliad diwethaf o ychydig dros £200,000 yn 2006-07 i oddeutu £290,000 yn 2008-09.  Cafwyd cynnydd yn bennaf oherwydd amseroedd eistedd hwy yn y Cyfarfod Llawn.  Daeth y gost i lawr i £220,000 yn 2009-10 oherwydd, am ran sylweddol o’r flwyddyn, roedd angen cyfieithiad o fewn pum diwrnod gwaith yn unig (am gost o £84 am bob 1,000 gair) yn hytrach na thros nos (£127 am bob 1,000 gair).

5.5.     Pe bai’r Comisiwn yn dymuno adfer y broses o gyfieithu’r Cofnod o’r Saesneg i’r Gymraeg ar ryw ffurf neu’i gilydd, byddai modd defnyddio tri dull i wneud y gwaith cyfieithu, neu gellid eu cyfuno. Y dulliau fyddai:

Cyfieithu allanol

5.6.     Yn 2010, 45,000 oedd nifer y geiriau a lefarwyd mewn Cyfarfod Llawn ar gyfartaledd ac, ar gyfartaledd, roedd 36,000 o’r geiriau hynny yn Saesneg. Bu’r Cyfarfod Llawn yn y Cynulliad hwn yn hwy hyd yn hyn – oddeutu 50,000 o eiriau i gyd – ond mae’r cyfrifiadau yn y papur hwn wedi’u seilio ar niferoedd cyfartalog y flwyddyn ddiwethaf.  Byddai’r gost flynyddol o gyfieithu 36,000 o eiriau o bob Cyfarfod Llawn mewn blwyddyn o fewn pum diwrnod gwaith, pan fyddai’r Cynulliad yn eistedd am 33 wythnos, yn costio oddeutu £200,000 heb TAW (£240,000 yn cynnwys TAW).

5.7.     Byddai modd lleihau’r symiau hyn pe byddai’n dderbyniol gosod amseroedd hwy ar gyfer dychwelyd y gwaith, er y byddai’r gost isaf bosibl, gan gynnwys TAW, yn fwy na £175,000 o hyd.

Adnoddau mewnol

5.8.     Byddai ymgymryd â’r gwaith hwn yn ei gyfanrwydd yn fewnol yn ddrutach. Ar gyfartaledd, byddai cyfieithydd profiadol yn cyfieithu oddeutu 2,500 gair y dydd. Felly, byddai angen cael saith neu wyth o gyfieithwyr llawn amser i wneud y gwaith yn ystod yr wythnosau mae’r Cynulliad yn eistedd, a fyddai’n costio oddeutu £350,000.

Cyfieithu peirianyddol

5.9.     Yr wythnos ddiwethaf, cynhaliwyd ymarfer peilot gennym i ganfod a allai gwasanaeth cyfieithu peirianyddol ar y we fod yn ddewis amgen posibl i waith cyfieithu a gomisiynir yn allanol. Llwythwyd adran gyda 5,000 o eiriau o gofnod y Cyfarfod Llawn yn llwyddiannus ar Google Translate a gwiriwyd ansawdd y cyfieithiad gan aelod o staff profiadol.  O ganlyniad, rydym yn amcangyfrif y byddai angen gwneud 36 awr o waith prawfddarllen ar gyfer Cyfarfod Llawn arferol, a fyddai’n costio £39 yr awr.  Byddai’r gost flynyddol felly oddeutu £110,000, gan gynnwys TAW.

5.10.  Er bod rhaglen gyfieithu Google yn rhad ac am ddim i ddefnyddwyr ar hyn o bryd, yn ddiweddar, cyhoeddodd Google ei fwriad i ddileu’r rhaglen[1] a’i bod yn bosibl y bydd gwasanaeth y telir amdano yn cymryd ei le.  Pe bai’r Comisiwn yn dymuno dewis yr opsiwn hwn, dylid cymryd yn ganiataol y byddai cost ychwanegol am ddefnyddio gwasanaeth y telir amdano.  Er gwaethaf cyhoeddiad Google, byddai’n strategaeth beryglus dibynnu ar unrhyw raglen rad ac am ddim ar gyfer darparu’r Cofnod. Cyn cyfarfod y Comisiwn, byddwn yn ceisio cael rhagor o wybodaeth ynghylch a oes unrhyw wasanaeth cyfatebol diogel ar gael a faint y mae’n ei gostio.

5.11.  Mae’r amrywiadau ar yr opsiynau hyn a gostiwyd ar gyfer darparu Cofnod o’r Trafodion sy’n gwbl ddwyieithog wedi’u nodi yn Atodiad DD.

6.0       Bil (Drafft) Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol)

6.1.     Ar hyn o bryd, mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn nodi:

‘The Assembly must, in the conduct of Assembly proceedings, give effect, so far as is both appropriate in the circumstances and reasonably practicable, to the principle that the English and Welsh languages should be treated on a basis of equality.’
(Adran 35(1))

ac

‘In the exercise of the functions of the Assembly Commission effect must be given, so far as is both appropriate in the circumstances and reasonably practicable, to the principle that the English and Welsh languages should be treated on a basis of equality.’
(Atodlen 2, paragraff 8(3))

6.2.     Mae’r ddadl ynghylch penderfyniad y Comisiwn i newid y trefniadau ar gyfer cyfieithu Cofnod y Trafodion, ac yn benodol yr ansicrwydd ynghylch sefyllfa gyfreithiol y Cynllun Iaith Gymraeg a’r berthynas rhwng y Cynulliad, y Comisiwn, Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Gweinidogion Cymru, wedi arwain at roi ystyriaeth i egluro a chryfhau’r darpariaethau deddfwriaethol sy’n ymwneud â sefyllfa’r iaith Gymraeg ym materion y Cynulliad a’r Comisiwn.

6.3.     Rhoddwyd ysgogiad pellach i’r mater hwn gan y newidiadau yn y gyfraith a wnaed gan Fesur arfaethedig y Gymraeg, a ddaeth yn gyfraith eleni, a gwaith y Panel Adolygu Annibynnol ar Wasanaethau Dwyieithog (y Panel Adolygu).

6.4.     Er nad oedd darpariaethau deddfwriaethol manwl o fewn cylch gwaith penodol y Panel Adolygu na’i argymhellion, teimlai’r Panel Adolygu ei bod yn werth dweud ei fod: ‘yn credu ei bod hi’n werth ymchwilio ymhellach i rinweddau Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd)’. Seiliwyd y farn hon ar dystiolaeth a gyflwynwyd gerbron y Panel Adolygu ynghylch y modd roedd y dyletswyddau sy’n ymwneud â darpariaeth ddwyieithog yn cael eu diffinio yn neddfwriaeth gwledydd dwyieithog neu amlieithog eraill fel Canada, Iwerddon a’r Swistir.

6.5.     Nid yw’r fframwaith cyfreithiol sy’n rheoli darpariaeth gwasanaethau dwyieithog y Cynulliad wedi’i ddiweddaru oherwydd ei fod wedi’i fodelu ar Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (a ddisodlwyd bellach gan Fesur y Gymraeg 2011). Yn unol ag egwyddorion cyfansoddiadol sylfaenol, nid yw’r Cynulliad na’r Comisiwn yn ddarostyngedig i’r trefniadau newydd hyn ond maent yn parhau i fod yn ddarostyngedig i’r dyletswyddau a osodwyd gan Ddeddf 2006 (gweler paragraff 6.1 uchod).

6.6.     Am y rhesymau hyn, cytunodd y Comisiwn i gynnig deddfwriaeth newydd i osod dyletswyddau’r Cynulliad a’r Comisiwn mewn perthynas â darparu gwasanaethau dwyieithog ar sail statudol gadarn.  Amlinellir y darpariaethau hyn yn Atodiad B fel Bil (Drafft) Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol), a gofynnir i’r Comisiwn gymeradwyo eu cynnwys.

7.0       Y Cynllun Ieithoedd Swyddogol arfaethedig newydd

7.1.     Adolygwyd y Cynllun Iaith Gymraeg presennol yng ngoleuni adroddiad y Panel Adolygu, cynigion deddfwriaethol Bil (Drafft) Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol), ein profiadau dros gyfnod y Trydydd Cynulliad, yr ymgynghoriad â Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac arferion da mewn deddfwrfeydd dwyieithog eraill.  Gallai’r Cynllun, o gael ei fabwysiadu, gael ei adolygu o dro i dro yn amodol ar yr un gofynion ar gyfer ymgynghori a chymeradwyo gan y Cynulliad ag sy’n berthnasol i’r Cynllun gwreiddiol ei hun.

7.2.     Mae’r Cynllun (Atodiad C):

8.0       Ymgynghori

8.1.     Cynigir bod ymgynghoriad cyhoeddus ar y Bil drafft a’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol drafft yn cael ei gynnal o fis Awst i fis Hydref 2011, fel y nodir yn Atodiad CH.  Yna byddai modd ystyried y sylwadau a gwneud gwelliannau i’r Cynllun drafft dros dymor yr hydref, cyn cyflwyno’r Bil ar gyfer craffu arno.

 



[1] http://googlecode.blogspot.com/2011/05/spring-cleaning-for-some-of-our-apis.html